Polisi Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni.

Polisi Ymddiriedolaethau Elusennol Teulu Sainsbury yw parchu eich preifatrwydd ynghylch unrhyw wybodaeth y gallwn ei chasglu wrth weithredu ein gwefan. Yn unol â hynny, rydym wedi datblygu'r polisi preifatrwydd hwn er mwyn i chi ddeall sut rydym yn casglu, defnyddio, cyfathrebu, datgelu a defnyddio gwybodaeth bersonol fel arall. Rydym wedi amlinellu ein polisi preifatrwydd isod.

  • Os byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol, bydd yn cael ei phrosesu drwy ddulliau cyfreithlon a theg a, lle bo'n briodol, gyda gwybodaeth neu ganiatâd yr unigolyn dan sylw.
  • Cyn neu ar adeg casglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn nodi'r dibenion y mae gwybodaeth yn cael ei chasglu ar eu cyfer.
  • Byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn unig at gyflawni'r dibenion hynny a bennir gennym ni ac at ddibenion ategol eraill, oni bai ein bod yn cael caniatâd yr unigolyn dan sylw neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
  • Dylai data personol fod yn berthnasol i'r dibenion y mae i'w defnyddio ar eu cyfer, ac, i'r graddau sy'n angenrheidiol at y dibenion hynny, dylai fod yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol.
  • Byddwn yn diogelu gwybodaeth bersonol trwy ddefnyddio mesurau diogelwch rhesymol rhag colled neu ladrad, yn ogystal â mynediad, datgelu, copïo, defnyddio neu addasu heb awdurdod.
  • Byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i ddefnyddwyr am ein polisïau a'n harferion sy'n ymwneud â rheoli gwybodaeth bersonol.
  • Byddwn ond yn cadw gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bo angen er mwyn cyflawni'r dibenion hynny.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein gwaith yn unol â'r egwyddorion hyn er mwyn sicrhau bod cyfrinachedd gwybodaeth bersonol yn cael ei ddiogelu a'i gynnal. Gall Ymddiriedolaethau Elusennol Teulu Sainsbury newid y polisi preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd yn ôl eu disgresiwn llwyr.

Lawrlwythwch y polisi llawn yma